Casgliad Morton Nance o Grochenwaith Cymreig
Ganwyd Ernest Morton Nance yng Nghaerdydd ym 1868. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ac ym 1895 ymgymrodd â swydd dysgu'r Clasuron yn Ysgol Ramadeg Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yno y dechreuodd ymddiddori mewn crochenwaith a phorslen Cymreig. Decheuodd gasglu cynnyrch diwydiant cerameg brodorol Cymru, gan ganolbwyntio yn bennaf ar y nwyddau a gynhyrchwyd gan Grochendy Cambrian, oedd wedi ei leoli yn Abertawe ac a fu'n gweithredu o'r 1760au tan ei gau ym 1870.
'Yn Abertawe dangoswyd i mi, gyda balchder, sbesimenau o gynnyrch lleol a mynegais fy awydd i fod yn berchen ar rai ohonynt. Dywedwyd wrthyf y byddai'n amhosibl cael hyd i ddim mwy nag ychydig ddarnau gwasgaredig, gan ei fod mor brin ac yn cael ei berchnogi yn dynn iawn. Dyma i chi her. Rheswm gwael mi wn dros ffurfio casgliad, serch hynny roedd yn rheswm a ymddangosai yn ddigonol i mi ar y pryd' *
Yn dilyn ei flynyddoedd cynnar yn Abertawe, treuliodd Morton Nance lawer o'i yrfa yn gweithio fel cyfreithiwr yn Llundain, ac ar ei ymddeoliad aeth i fyw yn St Ives yng Nghernyw. Fodd bynnag daliodd ei gysylltiad â Chymru yn gryf a pharhaodd ei frwdfrydedd dros gerameg Gymreig heb ball.
Dros y blynyddoedd byddai Morton Nance yn creu casgliad helaeth o ddarnau o grochenwaith a phorslen Cymreig ac wrth wneud hynny ymgymrodd ag ymchwil manwl ar hanes a dulliau cynhyrchu y ffatrioedd Cymreig.
Ym 1942, yn dilyn ei ymddeoliad, crynhodd Morton Nance ei astudiaeth oes o'r diwydiant cerameg Cymreig i gyhoeddiad sympus The Pottery and Porcelain of Swansea and Nantgarw. Roedd hwn, ar ei gwblhau, bron yn chwe chan tudalen ac ynddo o leiaf fil o ddarluniau. Yn y rhagair i'r llyfr ysgrifenodd R.L.Hobson, cyn-Geidwad Adran Gerameg yr Amgueddfa Brydeinig, ei fod yn amau,
'...a oedd unrhyw thema yn ymwneud â Cherameg wedi cael ei thrin mor drwyadl erioed'. *
Hyd heddiw, y llyfr hwn yw'r gwaith awdurdodol ar y diwydiant cerameg yng Nghymru, ac mae'r casgliadau cerameg y cafodd ei seilio arnynt, yn awr yn ffurfio rhan amhrisiadwy o'n casgliad ni o grochenwaith a phorslen Cymreig yma yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cyrhaeddodd y casgliad yma fel rhodd ar ôl marwolaeth Morton Nance ym 1952. Mae'r casgliad yn cynnwys pymtheg cant o ddarnau a ddyblodd, ym 1952, gasgliad yr amgueddfa o borslen Cymreig, a threblu yr eitemau o grochenwaith Cymreig.
Mae'r casgliad yn cynnwys llawer o eitemau ardderchog o borslen gafodd eu gwneud yn Abertawe a nifer o ddarnau o gyfnod byrhoedlog cynhyrchu porslen yn Nantgarw. Mae hefyd yn cynnwys rhai eitemau arbennig o nodedig o nwyddau crochenwaith o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg cynnar o ffatri Cambrian ynghyd ag enghreifftiau niferus o nwyddau llunbrintiad diweddarach.
Gwelir hefyd yn y casgliad nifer o nwyddau o ffatri Morgannwg, a fu'n gweithio ar y cyd am dipyn gyda ffatri fwy y Cambrian fwy yn Abertawe, yn ogystal â detholiad o eitemau a gynhyrchwyd gan Grochendy De Cymru, a ddechreuodd gynhyrchu yn Llanelli ym 1840 gan gau ym 1922, sy'n dynodi diwedd cynhyrchu cerameg ar raddfa fawr yng Nghymru.
Trawsffurfiodd y casgliad ardderchog yma y daliadau sylweddol o waith cerameg Gymreig oedd gennym eisoes, ac yn y blynyddoedd ers hynny rydym wedi parhau i ychwanegu at ein casgliad. Cawsom nifer o gaffaeliadau pwysig yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
Mae gan y casgliad o gerameg Gymreig gartref parhaol erbyn hyn yn yr Oriel Joseph, sy'n adrodd y stori gyfan am ffatrioedd crochenwaith a phorslen Cymru o'u dechreuadau ym 1764 hyd at gau Crochendy De Cymru ym 1922.
* The Pottery and Porcelain of Swansea and Nantgarw, Ernest Morton Nance, London, 1942.