Dewis o ddarluniau botanegol godidog o gasgliadau Amgueddfa Cymru
Mae darluniau botanegol yn cyfuno gwyddoniaeth a chelfyddyd.
Eu bwriad gwreiddiol oedd hybu dealltwriaeth wyddonol ac maent yn cynnwys llawer o luniau eithriadol o hardd. Dewiswyd y lluniau isod o blith dros 7,000 o brintiau a lluniau a gedwir yn Amgueddfa Cymru.
Darluniau Botanegol
o The fruits and flowers of Java 1863 gan Berthe Hoola Van Nooten.
Rhwng canol yr ail ganrif ar bymtheg a chanol y deunawfed ganrif gwelwyd Oes Aur darluniau gwyddonol. Yn yr oes hon o gywreinrwydd, archwilio ac arbrofi, roedd yr artist yn ategu'r broses wyddonol.
Georg Dionysius Ehret (1708-1770) oedd un o artistiaid mwyaf talentog y cyfnod hwn. Mae'r ddelwedd hon yn dangos Magnolia o Plantae Selectae Ehret ym 1772. Roedd Magnolias yn ffefryn i Ehret a dywedwyd ei fod yn mynd am dro yn ddyddiol i weld cynnydd y Magnolia grandiflora.
Crëwyd cynnwrf gan y lili'r dŵr enfawr hon, Victoria regia, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Victoria amazonica , pan gyrhaeddodd Brydain am y tro cyntaf ym 1849. Mae'r lithograff hwn wedi'i gymryd o Victoria regia 1854, llyfr ffolio trawiadol wedi'i gomisiynu yn arbennig i ddathlu blodeuo cyntaf y planhigyn yn Kew. Teithiodd degau o filoedd o bobl i'r gerddi yn arbennig i weld y blodyn yn agor ac yn newid lliw; digwyddodd hyn yn rheolaidd dros gyfnod o wyth awr.
Victoria regia, lili'r dŵr a enwyd er anrhydedd y Frenhines Fictoria, ac a ddarganfuwyd yn Ne America ym 1837, blwyddyn ei hesgyniad i'r orsedd. Roedd y dail yn 2 fetr syfrdanol o led. Llwyddodd merch Joseph Paxton, Prif Arddwr Chatsworth, lle blodeuodd y lili'r dŵr cyntaf ym Mhrydain, i sefyll ar un ddeilen heb iddi suddo.
Ysbrydolodd strwythur y planhigyn gynllun Joseph Paxton ar gyfer Crystal Palace, a adeiladwyd i gynnal y Great Exhibition yn Hyde Park ym 1851. Daw'r lithograff manwl iawn hwn o'r llyfr ffolio Victoria regia 1854 gan Walter Hood Fitch, ac mae'n darlunio strwythur cywrain gwahanol rannau o'r planhigyn.
Tulipa Lutea Lituris Aureis o Hortus Eystettensis (1613) a grëwyd gan Basilius Besler (1561-1629)
Yn gynnar yn y 17eg ganrif, daeth teithio a masnach â nifer o blanhigion newydd ac egsotig i Ewrop, a thyfwyd blodau am eu harddwch yn ogystal â'u defnydd ymarferol. Cododd 'Tulipomania' , fel y'i gelwid, o awydd angerddol y cyfoethog i berchnogi'r planhigion prinnaf. Yn yr Iseldiroedd, prynwyd un bwlb tiwlip am 4,600 fflorin, a choets a phâr o geffylau brith.
Ym 1665 cyhoeddodd Robert Hooke lyfr chwyldroadol o'r enw Micrographia lle gwelwyd manylion manwl, megis meingefn pigog y ddanhadlen hon, am y tro cyntaf. Hyd at ddatblygiad microsgopeg nid oedd gan bobl wybodaeth am fodolaeth strwythurau cymhleth planhigion. Gyda microsgopau cynyddol soffistigedig, galluogwyd ymchwilio i strwythur celloedd a phlanhigion bychain.
Papaya Carica papaya, o Plantae Selectae 1772 gan Georg Dionysius Ehret (1708-1770).
Cactws Nosflodeuog Cereus grandiflorus a gomisiynwyd gan Robert John Thornton (1768 - 1837) yn Temple of Flora.
Enwyd y planhigyn hwn hefyd yn Gactws y Lleuad ac Ysgallen Gwyr, gan ei fod yn blodeuo gyda'r nos yn unig. Mae'n trigo mewn gwledydd poeth, sych, lle mae peillwyr yn fwy gweithgar gyda'r nos. Dywedir bod y blodau mawr gydag arogl fanila ymysg y blodau harddaf sy'n bod. Mae'r blodau'n pylu ac yn marw cyn y wawr.
Cactws Nosflodeuol Cereus grandiflorus, o Plantae Selectae gan G.D. Ehret, 1772.
Arum maculatum (Pidyn y Gog) o Flora Londinensis (1777-1787) a gyhoeddwyd gan William Curtis.
Roedd Flora Londinensis yn cynnwys yr holl flodau gwyllt a dyfai o fewn deng milltir i Lundain, a oedd bryd hynny wedi'i amgylchynu gan gaeau a thir corsiog heb ei ddraenio. Mae'r darluniau a liwiwyd gyda llaw yn arbennig o gain a manwl, felly mae'n syndod na lwyddodd i ddenu nifer o danysgrifwyr. Ar öl deng mlynedd, roedd yn rhaid i Curtis dderbyn methiant ariannol ac ym 1787, cynhyrchodd y Botanical Magazine llai, sydd yn parhau i gael ei gyhoeddi heddiw, dros 200 mlynedd yn ddiweddarach.
Tulipa gesneriana, o Temple of Flora, 1799 a gyhoeddwyd gan Robert Thornton.
Tyngodd Thornton y byddai ei lyfr, Temple of Flora y cyhoeddiad botanegol mwyaf godidog erioed. Darluniwyd planhigion egsotig mewn tirweddau dramatig gan artistiaid gorau'r dydd. Arweiniodd costau afradlon cyhoeddi'r llyfr moethus hwn at ddinistr ariannol i Thornton.