Casgliadau Celf Arlein
Ynysoedd Aran [The Aran Isles]
JOHN, Augustus (1878 - 1961)
© Trwy ganiatâd Ystâd yr Artist/Llyfrgell Gelf Bridgeman
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 30.0 x 50.7 cm
Derbyniwyd: 1971; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 157
Mae'r dechneg fyrfyfyr yn ein hatgoffa am bortreadau bywiog John o Dorelia ac Edwin John yn 1911. Mae'n debyg fod y tirlun hwn yn dyddio o 1912 pan fu'r arlunydd yn Connemara ac Ynysoedd Aran ar arfordir gorllewin Iwerddon. Yn ystod yr hydref bu'n aros yng Nghastell y Waun gyda'r Arglwydd Howard de Walden, a oedd ar un adeg yn berchen ar y llun hwn. Mae'n ein hatgoffa'n glir o waith J.D.Innes, a fyddai'n peintio gyda John yn aml yn ystod y cyfnod hwn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.