Casgliadau Celf Arlein
Morffews [Morpheus]
JOHN, Sir William Goscombe (1860 - 1952)

Morpheus
William Goscombe John (1860 - 1952)
Dyddiad: 1890
Cyfrwng: efydd
Maint: 166.4 cm
Derbyniwyd: 1894; Rhodd; Syr William Goscombe John
Rhif Derbynoli: NMW A 2422
Cafodd y ffigwr hwn ei fodelu ym Mharis pan oedd y cerflunydd yn fyfyriwr yno ar ôl ennill Medal Aur yr Academi Frenhinol ym 1889. Byddai Goscombe John yn ymweld yn aml â stiwdio Rodin, ac mae osgo'r ffigwr hwn yn ein hatgoffa o Oes Efydd Rodin. Yn yr Academi Frenhinol ym 1891 cafodd ei arddangos gyda'r geiriau barddonllyd 'Drown'd in drowsy sleep of nothing he takes his keep'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.