Casgliadau Celf Arlein
Tirlun
DUGHET, Gaspard (1615 - 1675)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 36.8 x 48.5 cm
Derbyniwyd: 1961; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 10
Ysbrydolwyd y tirlun clasurol hwn gan y dirwedd o amgylch Rhufain. Golygfa arddulliedig sydd yma gyda phob coeden, craig a ffigwr wedi’u gosod yn ofalus er mwyn creu cyfansoddiad cytbwys a chydnaws. Roedd gwaith Dughet yn boblogaidd ymysg teithwyr y Daith Fawr a daethpwyd â llawer o’i beintiadau nôl i Brydain. Fe’i gelwir weithiau yn Gaspard Poussin, gan ei fod yn ddisgybl ac yn frawd yng nghyfraith i’r arlunydd enwog o Ffrainc, Nicolas Poussin.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.