Casgliadau Celf Arlein
Y Drymiwr Bach [The Drummer Boy]
JOHN, Sir William Goscombe (1860 - 1952)
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Cyfrwng: efydd
Maint: 231.1 cm
Derbyniwyd: 1927; Rhodd; Syr William Goscombe John
Rhif Derbynoli: NMW A 2627
Ysgrifennodd y cerflunydd ym 1925 fod hwn yn un o'i weithiau 'gorau a mwyaf poblogaidd'. Goscombe John ei hunan a awgrymodd y dylid ei roi yng nghyntedd yr Amgueddfa. Copi o ffigwr ar Gofeb Ryfel De Affrica i Gatrawd y Brenin yn Lerpwl yw'r milwr ifanc. Gwelir model o blastr peintiedig ar gyfer y cerflun yn Oriel 7. Disgrifiodd Goscombe John y bachgen ym Mrwydr Dettingen ym 1743, ''yn eistedd ar wrthglawdd drylliedig ac yn gweiddi ar ei gyfeillion, ac yn curo galwad gynhyrfus a llawen i'r gad, gan ddiystyru pob tristwch'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.