Casgliadau Celf Arlein
Adeiladau yn Napoli [Buildings in Naples]
JONES, Thomas (1742 - 1803)
Dyddiad: 1782
Cyfrwng: olew ar bapur
Maint: 14.2 x 21.6 cm
Derbyniwyd: 1954; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 89
Ar ddechrau ei ail arhosiad yn Napoli, o fis Mai 1780 tan fis Awst 1783, roedd gan Jones lety gyda theras ar y to mewn ty^ ger yr harbwr. O'r fan honno gwnaeth gyfres o astudiaethau olew gorffenedig iawn o adeiladau gerllaw, sy'n eithriadol o ffres ac uniongyrchol. Ymhell o’r palasau crand a’r golygfeydd Eidalaidd poblogaidd, canolbwyntiodd Thomas Jones ar destunau mwy di-nod – hen waliau, leiniau dillad, ffenestri. Nid dyma oedd testunau arferol artist o’r ddeunawfed ganrif. Peintiodd fraslun manwl o do ei dŷ yn Napoli. Mae’n edrych yn fodern iawn gyda’i liw glas llychlyd, tonau llwyd ariannaidd a thechnegau fframio anghyffredin.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.