Casgliadau Celf Arlein
Adeiladau yn Napoli gydag ochr Ogledd-ddwyreiniol y Castell Nuovo [Buildings in Naples with the North-East side of the Castle Nuovo]
JONES, Thomas (1742 - 1803)
Dyddiad: 1782
Cyfrwng: olew ar bapur
Maint: 22.0 x 29.1 cm
Derbyniwyd: 1954; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 90
Astudiaethau Jones o Napoli oedd ei gyfraniad mwyaf arbennig a gwreiddiol at y traddodiad braslunio olew, a dyma’r cyntaf ohonyn nhw. Roedd e’n gweithio ar deras to ei lety gyferbyn â’r Dogana del Sale ar y pryd.
Y tu hwnt i’r adeilad gyda’i ddillad yn sychu gwelir wal a thŵr Castel Nuova a adeiladwyd yn y 13eg ganrif i’r chwith, a rhan o do a rhodfa’r Palas Brenhinol i’r dde. Mae coed y Largo del Castello’n sefyll rhwng y ddau, ac mae cromenni dwy eglwys a llusern y drydedd ar y gorwel.
Mae archwiliadau golau is-goch wedi dangos y tanluniadu helaeth sef brasluniau Jones o’r prif ffurfiau pensaernïol.
sylw - (3)
www.museumwales.ac.uk/picturelibrary