Casgliadau Celf Arlein
Bae Napoli [The Bay of Naples]
JONES, Thomas (1742 - 1803)
Dyddiad: 1782
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 103.2 x 156.8 cm
Derbyniwyd: 1952; Rhodd; Mrs Evan-Thomas
Rhif Derbynoli: NMW A 87
Mae'r gwaith hwn yn darlunio Napoli gyda'r bae a Mynydd Vesuvius yn y cefndir ar y chwith a Phenrhyn Sorrento i'w weld ar y gorwel. Mae Castel Sant' Elmo a dwy o'r coed pên bythol yn ffrêm i'r cyfansoddiad. Cafodd y tirlun Clasurol hwn, a ysbrydolwyd gan Claude a Wilson, ei ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1784.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.