Casgliadau Celf Arlein
Thomas Williams (1737-1802)
LAWRENCE, Sir Thomas (1769 - 1830)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 127.5 x 102.1 cm
Derbyniwyd: 1987; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 451
Thomas Williams (1737-1802) oedd prif asiant gweithfeydd copr Mynydd Parys ger Amlwch. Sefydlodd nifer o weithfeydd toddi a rhwydwaith o longau dosbarthu. Roedd yn ffigwr blaenllaw ar ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol. Ym 1790 daeth yn AS dros Great Marlow. Mae'r portread hwn yn ei ddarlunio ar ei anterth yn ystod y 1790au ac yr oedd i'w weld yn ei blasty yn Berkshire. Roedd Syr William Lawrence yn blentyn eithriadol o alluog a wnaeth enw iddo'i hun fel prif beintiwr portreadau cyfnod y Rhaglywiaeth a theyrnasiad George IV.
sylw - (2)
Lawrence did this portrait when he was 19 years of age. VERY few of Lawrence's portraits are signed. Very few-
-R.Collins