Casgliadau Celf Arlein
Y Dywysoges Anna o Thurn a Taxis
LEERMANS, Pieter (fl.1649 - 1706)

Cyfrwng: olew ar gopr
Maint: 30.0 x 22.6 cm
Derbyniwyd: 1950; Rhodd; Mary Collin
Rhif Derbynoli: NMW A 38
Yr Iarlles Anna de Hornes oedd mam y Tywysog Eugene Alexander enwog, y mae darlun ohono yma hefyd. Roedd Leermans yn ymwneud â grŵp o artistiaid o Leiden a arbenigai mewn peintiadau bach hynod fanwl. Fe’u gelwid yn Leiden fijnschilders (arlunwyr coeth). Yn yr enghraifft hon, mae wedi peintio ar gopr i greu darlun llyfn a chaboledig. Byddai unrhyw un a fyddai wedi edrych ar y darlun yn y cyfnod hwnnw, cyn dyfodiad camerâu, wedi rhyfeddu at berffeithrwydd portreadau o’r fath. Yn ogystal â llofnod yr arlunydd ar gymar y llun hwn, mae ar y ddau arysgrif sy'n cofnodi dyddiadau'r gwrthrych.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.