Casgliadau Celf Arlein

Y Llynghesydd Syr Erasmus Gower (1742-1814) [Admiral Sir Erasmus Gower (1742-1814)]

LIVESAY, Richard (1753 - 1823)

Y Llynghesydd Syr Erasmus Gower (1742-1814)

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 101.6 x 76.2 cm

Derbyniwyd: 1959; Rhodd; Mrs Helen Dew

Rhif Derbynoli: NMW A 471

Ganed Erasmus Gower (1742-1814) yn Sir Benfro a chododd i safle Llyngesydd y Gwynion ym 1810. Yn ystod ei yrfa bu'n archwilio arfordir Patagonia ym 1789, llywio'r llong a aeth â'r Arglwydd Macartney i Tseina, 1792 a dod yn Llywdraethwr Newfoundland,1804. Byddai Livesey, meistr arlunio yn y Coleg Morwrol Brenhinol yn Portsea, yn peintio portreadau a phynciau'r môr. Mae'n debyg i'r portread hwn o'r gwrthrych yn gwisgo lifrai Dirprwy Lyngesydd gael ei beintio pan gafodd ei ddyrchafu i'r safle hwnnw ym 1799.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd