Casgliadau Celf Arlein
Griffith Owen, Telynor y Teulu Corbet, Ynysmaengwyn [Griffith Owen, Harpist to the Corbet Family of Ynysmaengwyn]
MARSHALL, Benjamin (1768 - 1835)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 92.0 x 71.0 cm
Derbyniwyd: 1999; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 14301
Griffith Owen (1750-1833) oedd bwtler a thelynor teulu Corbet, Ynysmaengwyn, Meirionnydd, ac yma fe'i gwelir yn sefyll yn y cyntedd gyda chyfrol o gerddoriaeth gan Handel yn ei law. Mae'n amlwg bod gan ei gyflogwyr feddwl mawr ohono, gan iddynt gomisiynu'r portread hwn gan yr arlunydd chwaraeon ffasiynol Benjamin Marshall, pan fu'n peintio darlun teuluol o deulu Corbet. Mae hen label yn cofnodi bod y peintiad wedi ei 'dynnu' pan glywodd Owen am farwolaeth Mrs Corbet, 'ei Feistres - y byddai galaru am byth ar ei hôl'.
sylw - (2)
Graham Davies. Digital Team