Casgliadau Celf Arlein
Gaeaf - Y Casglwyr Ffagodau
MILLET, Jean-François (1814 - 1875)
Dyddiad: 1868-75
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 82.0 x 100.0 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2478
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae’r darlun trawiadol hwn o galedi gwledig yn dangos tair menyw yn ychwelyd yn y tywyllwch o fod yn casglu coed tân. Creodd Millet sawl braslun o’r un pwnc dros y blynyddoedd. Er hynny, nid yw’n llun gorffenedig. Mae’n bosibl ei fod yn cynrychioli’r ‘Gaeaf’ yng nghyfres y pedwar tymor. Peintiodd Millet dros bortread o fenyw sydd i’w weld yn rhannol ar y dde.
sylw - (2)
A faggot or fagot is a bundle of sticks or branches, usually meant for use as firewood. It derives through the Old French fagot and the Italian diminutive fagotto from the Latin Fasces ("bundle", also the origin of the word Fascism), coming into Middle English no later than 1279.