Casgliadau Celf Arlein
Marchnad y Pentref
BOUDIN, Louis Eugène (1824 - 1898)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 11.2 x 19.9 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2431
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae’r dafnau byrion o baent yn cyfleu prysurdeb y farchnad. Mae’r darnau moel yn dangos lle’r oedd Boudin wedi brysio er mwyn creu’r argraff o’r foment arbennig. Yn wahanol i’w olygfeydd modern o’r traeth, mae’r paentiad hwn yn dangos cymuned wledig draddodiadol. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd llu o artistiaid yn treulio’u hamser yng nghefn gwlad Llydaw a Normandi fel ymwelwyr artistig.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.