Casgliadau Celf Arlein
Dau Ffurf [Two Forms]
NICHOLSON, Ben (1894 - 1982)
Dyddiad: 1940-3
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 60.5 x 59.5 cm
Derbyniwyd: 1975; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2036
O dan ddylanwad yr arloeswr celfyddyd haniaethol, Piet Mondrian o'r Iseldiroedd, daeth Nicholson yn un o Fodernwyr mwyaf digyfaddawd Prydain. Rhwng 1933 a 1945 bu'n ymchwilio i ffurf a gwagle drwy drefniadau haniaethol o gylchoedd a phetryalau. Yma, yr effaith gyffredinol yw golau ac eglurder. Mae'r darnau tywyll wedi eu hamgylchynu gan liwiau goleuach ac mae bloc gwyn yn tarfu ar y ffurf betryal fawr ar y dde. Mae Dwy Ffurf y teitl yn nofio o flaen cae o fandiau wedi eu graddio o led wyn i lwydlas.
sylw - (2)
I am a foundation student at chelsea college of art and wanted to try and get hold of a poster or high quality copy of this painting.
Many Thanks
Jason Thomson