Casgliadau Celf Arlein
Hunan-bortread
Pardoe, Thomas (1770 - 1823)
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 38.1 x 32.5 cm
Derbyniwyd: 1959; Rhodd; Mrs Emma Pardoe James
Rhif Derbynoli: NMW A 1954
Cyflogid Thomas Pardoe (1770-1823) fel peintiwr yng Nghrochendy Cambria, Abertawe o tua 1795 hyd 1809. Wedyn bu'n gweithio ar ei liwt ei hun ym Mryste cyn dychwelyd i Gymru yn ystod y gaeaf 1820-1, ac yma bu'n addurno'r porslen a oedd ar ôl yn Nantgarw tan ei farw. Mae'r darlun hwn, sydd bron yn sicr yn hunan bortread, yn perthyn i draddodiad o bortreadau o gasglwyr ac arlunwyr a ddechreuodd yn yr Eidal yn yr 16eg ganrif.
sylw - (1)