Casgliadau Celf Arlein
John Parry, y Telynor Dall (bu f.1782) gyda Chynorthwydd [John Parry the Blind Harpist (d.1782) with an Assistant]
PARRY, William (1743 - 1791)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 87.0 x 71.2 cm
Derbyniwyd: 1996; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 3980
Casgliad: Casgliad Syr Watkin Williams-Wynn
Fel llawer darn ymddiddan, mae'r gwaith hwn yn portreadu golygfa gerddorol. Roedd y telynor enwog John Parry (~1710-82) hefyd yn organydd medrus ac yn gyfansoddwr o fri. Cafodd ei lyfr British Harmony ei gyflwyno i Syr Watkin Williams-Wynn ym 1781. Mae'n bosibl mai ei fab arall, David, a oedd hefyd yn organydd, yw'r cynorthwywr. Sgôr anthem goroni Handel Zadok the Priest a gyfansoddwyd ym 1727, yw'r llyfr cerddoriaeth. Roedd Syr Watkin Williams-Wynn yn gefnogwr brwd i waith Handel.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.