Casgliadau Celf Arlein
Caernarfon [Caernarvon]
BRETT, John (1830 - 1902)

Dyddiad: 1875
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 25.4 x 48.3 cm
Derbyniwyd: 1958; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 183
Lluniwyd y tirlun hafaidd delfrydol hwn o’r caeau rhwng Brynsiencyn a Dwyran ym Môn. Mae'r bryniau yn y blaendir yn cuddio Afon Menai ond mae tref Caernarfon a'r castell i'w gweld yn y canoldir. Tu ôl i'r castell mae Mynydd Mawr, ac yn y cefndir i'r chwith mae llethrau Moel Eilio. Cafodd y Brawdoliaeth Gyn-Raffaelaidd, ac ysgrifau eu cefnogwr enwocaf, John Ruskin, ddylanwad mawr ar Brett. Roedd Brett wedi ymweld ag Ynys Môn ym 1866 a 1867 tra'n ddi-briod ond ym 1875 treuliodd dri mis yng Ngogledd Cymru gyda'i wraig a'i deulu ifanc a gwnaeth nifer o astudiaethau pensel a phaentiadau olew o Gaernarfon a'r golygfeydd ar lannau Afon Menai.