Casgliadau Celf Arlein
Y Parchedig Christmas Evans (1766-1838) [Reverend Christmas Evans (1766-1838)]
ROOS, William (1808 - 1878)
Dyddiad: 1835
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 38.1 x 33.0 cm
Derbyniwyd: 1907; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2410
Ganwyd Roos ym Modgadfa, Ynys Môn, a gwelodd beth llwyddiant fel portreadwr a pheintiwr anifeiliaid. Ysgythrodd y portread hwn o'r gweinidog gyda'r Bedyddwyr Christmas Evans (1766-1838) mewn mesotint, a dyma'i waith mwyaf enwog. Roedd Evans yn un o bregethwyr grymus ei ddydd, yn ddiwygiwr tân a brwmstan a fedrai yrru cynulleidfa i afael ofn mawr neu i ecstasi crefyddol. Llwydda peintiad Roos i gofnodi grym corfforol y dyn - a oedd yn ôl y sŵn yn 7 troedfedd o daldra - a dim ond un llygad ganddo a'r gofod lle dylai'r llygad arall fod wedi ei wnïo ynghau.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.