Casgliadau Celf Arlein
Hagar ac Ishmael yn yr Anialwch
SACCHI, Andrea (1599 - 1661)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 75.6 x 92.0 cm
Derbyniwyd: 1971; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 9
Mae’r paentiad hwn yn dangos Hagar yn anobeithio ynghylch ei mab Ishmael sy’n marw o syched wedi iddo gael ei alltudio i’r anialwch. Mae angel yn ymddangos, gan gyfeirio at ffynnon ddŵr, a chyhoeddi y bydd Ishmael yn dod yn dad i genedl fawr. Mae’r paentiad wedi’i seilio ar stori Hagar ac Ishmael yn yr Hen Destament (Genesis 21: 1-21) a chafodd ei greu ar gyfer y Cardinal Antonio Barberini, prif noddwr Sacchi ac un o gefnogwyr celf mwyaf yr Eidal ar y pryd.
sylw - (1)
Just wondered if you had any background information on the time line on this painting, for example, where was it before the Art Fund bought it?
Any information greatly received.
Many Thanks