Casgliadau Celf Arlein
Y Clogwyn ym Mhenarth, Min Nos, Trai
SISLEY, Alfred (1839 - 1899)
Dyddiad: 1897
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 54.4 x 65.7 cm
Derbyniwyd: 1993; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2695
Bu Sisley yn ymweld â De Cymru ym 1897 a phriododd ei gymar tymor-hir, Eugénie Lescouezec, yng Nghaerdydd yr haf hwnnw. Peintiodd ugain o olygfeydd o Benarth (lle bu'n aros o 5 Gorffennaf i 15 Awst) a Bae Langland ger Abertawe. Roedd ffurfiant daearyddol unigryw y clogwyni ym Mhenarth, a'r cwymp rhyfeddol yn llanw Môr Hafren ar adeg distyll, o ddiddordeb mawr iddo. Peintiwyd yr olygfa hon o ddechrau'r llwybr ar hyd y clogwyn sy'n cysylltu Penarth a Larnog, gan edrych tua'r de, gydag Ynys Steep Holm ar y chwith. Golygfa gyda'r hwyr yw hon ac mae'r golau'n isel o'r gorllewin gan daflu cysgod glasgoch y clogwyn serth dros y traeth islaw. Roedd y darlun hwn yn eiddo gynt i Edmond Decap, brawd yng nghyfraith i François Depeaux, noddwr Sisley a gŵr yr oedd ganddo fuddiannau busnes yng Nghaerdydd. Soniodd yr arlunydd am anawsterau ymarferol peintio'r darlun pan ddywedodd iddo beintio 'yn erbyn y gwynt, sy'n tra-arglwyddiaethu yma. Doeddwn i ddim wedi dod ar draws hyn o'r blaen'.
sylw - (9)
Capturing impressionist painter Alfred Sisley s work.
Looking at this painting you get impression of early evening slightly cool the evening sun giving the last if it's warmth .
The tide gently lapping the shore
Seagull screeching in background .
Sea weed and sea breeze smells.
Hi there Jane
You can purchase a print by pressing the 'buy a print' button above.
Best wishes,
Sara
Digital Team
Hi there Tricia,
Sisley The Cliff at Penarth is currently on display in Gallery 16. We would advise you to check nearer the date you plan to visit. We have a few loans planned out of Gallery 16 so it would be worth making sure - you can contact us here.
Sisley's Storr Rock shows boats in the background, and is currently on tour in the US - it will be back on display in June 2016.
Best
Sara
Digital Team
Thanks for your enquiry - I'll pass it on to our curators and get back to you as soon as possible,
Sara
Digital Team
If yes, is it always on view, or available to view? (we're coming to Cardiff in early Sept)
If the painting is not with you, where is it?
Look forward to hearing from you.
Thanks,
Regards,
Tricia.
http://www.museumwales.ac.uk/en/picturelibrary/
Thank you for your interest in Amgueddfa Cymru