Casgliadau Celf Arlein
Apollo a Marsyas [Apollo and Marsyas]
STRUDWICK, John Melhuish (1849 - 1935)
Dyddiad: 1879
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 106.5 x 170.0 cm
Derbyniwyd: 1916; Rhodd; Mrs Ivor Griffiths
Rhif Derbynoli: NMW A 173
Roedd Strudwick yn ddisgybl i Burne-Jones a byddai'n aml yn darlunio themáu cerddorol. Yn ôl y chwedl, heriodd Marsyas Apollo i gystadleuaeth gerddorol, sef ei ffliwt ef yn erbyn telyn y duw. Rhoes yr Awenau y wobr i Apollo, a chlymodd yntau Marsyas wrth goeden a'i flingo'n fyw. Mae Strudwick wedi darlunio'r dyfarniad. Ar gefn y llun hwn gwelir y llinellau canlynol:
Oh ecstacy
Oh happiness of him who once heard
Apollo singing!
As he sang,
I saw the Nine, was lovely pitying eyes,
Sing 'He has conquered'.
Yet I felt no pang
Of fear only deep joy that I have heard such music while I lived,
Even though it brought torture and death.
The Epic of Hades
By a new writer