Casgliadau Celf Arlein
Craig y Ci [Dog Rock]
SUTHERLAND, Graham (1903 - 1980)
Dyddiad: 1975-6
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 100.0 x 81.5 cm
Derbyniwyd: 1989; Trosglwyddwyd; Ymddiriedolaeth Graham Sutherland
Rhif Derbynoli: NMW A 2270
Lleolir y graig yn Craig y Ci yng nghanol y llun, ar ogwydd sy’n awgrymu ei bod ar fin dymchwel yn ei blaen. Lleolir y graig mewn gofod amwys: mae dail a blodau yn tyfu ar un ochr tra bod y cefndir coch dwys yn awgrymu mur neu adeiladwaith o waith dyn. Mae’r teimlad o gydbwysedd yn y paentiad hwn yn nodweddiadol o lawer o’i waith yn y cyfnod hwn. Eglurodd Sutherland: “Rwyf wedi teimlo’r angen am elfen o gydbwysedd erioed... Rwyf wedi ceisio rheoli’r anghydbwysedd”.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.