Casgliadau Celf Arlein
Bore: Camlas Morgannwg [Morning: the Glamorgan Canal]
THOMAS, Edgar Herbert (1862 - 1936)
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 30.0 x 45.3 cm
Derbyniwyd: 1938; Rhodd; Mrs Wyand
Rhif Derbynoli: NMW A 3282
Daeth Thomas yn ddarlunydd ar gyfer y Western Mail, ym 1880, a denodd gefnogaeth 3ydd Ardalydd Bute. Wedi cyfnod yn stiwdio Syr Lawrence Alma Tadema yn Llundain, astudiodd Thomas yn Antwerp a Pharis. Yn anarferol, dychwelodd i Gymru a cheisio creu gyrfa fel peintiwr proffesiynol yng Nghaerdydd, ond heb fawr o lwyddiant. Arddangoswyd sawl darn o'i waith, gan gynnwys dau beintiad o Gamlas Morgannwg, yn An Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction, a drefnwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1913-14.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.