Casgliadau Celf Arlein
Bad Hwylio ger Deal [A Sailing Boat off Deal]
TURNER, Joseph Mallord William (1775 - 1851)

Cyfrwng: olew ar felinfwrdd
Maint: 22.6 x 30.3 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 435
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae Deal yn edrych allan dros harbwr naturiol helaeth y Downs rhwng arfordir Caint a Thraeth Goodwin. Roedd yn orsaf bwysig a'r llongwyr yn enwog am eu medr a'u dewrder. Un o grw^p o frasluniau yw hwn o gychod hwylio mewn tywydd garw a beintiwyd tua 1835.Mar'n debyg ei fod yn eiddo i Mrs Booth a gadwai dy^ i Turner.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.