Casgliadau Celf Arlein

Y Comiwnydd, Cyfarfod Gwleidyddol [The Communist, a Political Meeting]

WALTERS, Evan (1893 - 1951)

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 76 x 92.1 cm

Derbyniwyd: 1953; Cymynrodd; Evan Walters

Rhif Derbynoli: NMW A 2226

Hyfforddwyd Evan Walters yn Ysgol Gelfyddyd Abertawe. Dosbarth gweithiol oedd ei gefndir ym maes glo Gorllewin Morgannwg. Roedd ei waith yn cynnwys golygfeydd diwydiannol, yn ogystal â thirluniau, portreadau a pheintiadau crefyddol a ysbrydolwyd gan y traddodiad Anghydffurfiol Cymreig. Yn y gwaith hwn o tua 1932 mae osgo'r areithiwr, sy'n debyg i eiddo Crist, yn amwys, ac mae ei gynulleidfa yn dawel, yn hytrach na llawn ysbrydoliaeth oherwydd ei angerdd. Yn y 1930au arafodd gyrfa Walters ac ychydig o ddiddordeb oedd yn ei ddelweddau diwydiannol yn ystod ei oes. Fe'i cofir heddiw am y modd y bu'n pledio achos celfyddyd yng Nghymru a fyddai'n mynegi delfrydau ac enaid Cymru.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd