Casgliadau Celf Arlein
Porth-yr-Ogof, Sir Frycheiniog [Porth-yr-Ogof, Brecknockshire]
WILLIAMS, Penry (1802 - 1885)
Dyddiad: 1819
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 25.2 x 34.0 cm
Derbyniwyd: 1939; Rhodd; John Herbert James
Rhif Derbynoli: NMW A 452
Roedd ogof anferth Porth yr Ogof, lle rhed Afon Mellte, yn destun chwilfrydedd i Thomas Hornor ym 1816-20 a William Weston Young ym 1835. Yn ei lyfr Guide to the Beauties of Glyn Neath meddai Young '...Mae hwn yn fan eithriadol; er y gellir dweud bod digonedd o holltau neu ogofâu yn nghraig galchfaen yr ardal, nid oes un arall yn y cwm sydd gymaint â hon; daw digon o olau drwy geg yr ogof i chi allu cerdded cryn bellter...'
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.