Casgliadau Celf Arlein

Castell Caernarfon [Caernarfon Castle]

WILSON, Richard (1714 - 1782)

Castell Caernarfon

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 63.5 x 125.1 cm

Derbyniwyd: 1913; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 73

Mae mam a’i phlant yn chwarae o flaen adfeilion Castell Caernarfon, symbol o orthrwm Lloegr; Codwyd Castell Caernarfon, man geni Tywysog cyntaf Cymru, gan Edward I. Peintiodd Wilson lawer golygfa yn y lle sy'n amrywio o ran cywirdeb topograffyddol. Tref porthladd brysur oedd Caernarfon yn y cyfnod hwn, ond mae Wilson wedi gweddnewid y dirwedd i greu darlun o gytgord delfrydol.

Mae’r darlun yn tywynnu â golau Eidalaidd ysgafn sy’n annodweddiadol o Gymru. Yn aml peintiai Wilson ei dirwedd frodorol a’i feddwl yn llawn atgofion o’r Eidal, wedi’i ysbrydoli gan waith artistiaid Ewropeaidd fel Claude a Cuyp. Mae'r golau aur yn debyg i olau campagna Rhufain. Fel ei olygfeydd o olion Rhufeinig hynafol, y thema yw breuder campau dyn.

Mae golygfeydd Cymreig Wilson ymysg ei weithiau pwysicaf. Un tro fe honodd ei feistr, Thomas Wright, bod Wilson yn ’hoff o’i famwlad’. Mae rhai wedi honni mai balchder cenedlaethol a’i ysbrydolodd i beintio ei famwlad, tra bod eraill yn dadlau fod Cymru’n destun oedd yn addas o ran ei ddyheadau fel peintiwr tirluniau.

 

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Graham Davies
29 Tachwedd 2013, 12:11
Caernarvon Castle is on loan to Oriel y Parc and the self portrait is in store and can be viewed on an appointment basis. The reason it is not on display is that we currently have a portrait of Wilson by Mengs on display in Gallery 4.
Brian Armstrong
13 Tachwedd 2013, 10:31
This would appear to be a fine example of Wilson's oeuvre. Is it lack of wall space, or otherwise that this painting not on view. Notice that his self portrait also not on view, which appears a little odd in view of his importance not only in the history of Welsh art, but as the one of the most influential influences on British landscape painting.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd