Casgliadau Celf Arlein
Y Ddol Japaneaidd [The Japanese Doll]
JOHN, Gwen (1876 - 1939)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 33.0 x 40.6 cm
Derbyniwyd: 2003; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd ac Ymddiriedolaeth Derek Williams
Rhif Derbynoli: NMW A 25990
Stiwdio'r artist ym Meudon yn Ffrainc yw cefndir y darlun bywyd llonydd hwn. Mae llawer o'r gwrthrychau yn y llun yn bropiau stiwdio cyfarwydd sy'n ymddangos yn aml yn ei gwaith, fel y bwrdd crwn, y blwch hirsgwâr a'r lliain sgwariog. Ond dim ond yn y gwaith hwn, ac mewn ail fersiwn ohono, y mae'r ddol Japaneaidd yn ymddangos, ac mae'n rhoi fflach o liw i waith a fyddai fel arall yn astudiaeth o raddliwiau. Aeth i feddiant Julia Quinn Anderson, chwaer noddwr Gwen John, tua 1930. Mae'n debyg mai at y gwaith hwn roedd hi'n cyfeirio pan ysgrifennodd mewn llythyr at Gwen ym mis Gorffennaf 1928, 'I am sorry that the painting of the doll was not finished'.
sylw - (2)
Hi Adrian
I agree, it's a great painting - I would suggest having a word on email with our image licensing officer, as she will have the correct version on file for reference.
Many thanks,
Sara
Digital Team
Thanks
Adrian