Casgliadau Celf Arlein

Perseus a'r Graiae

BURNE-JONES, Sir Edward (1833 - 1898)

Perseus a'r Graiae

Dyddiad: 1877

Cyfrwng: dalen aur ac arian, geso ac olew ar dderw

Maint: 170.2 x 153.2

Derbyniwyd: 2008; Derbyniwyd gan Lywodraeth E.M. yn lle treth etifeddiaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 29299

Mae’r darn rhyfeddol hwn yn troedio’r ffin rhwng llun a cherflun, a dyma ganolbwynt un o weithiau traethiadol mwyaf uchelgeisiol Burne-Jones. Mae’r darn yma’n adrodd hanes yr arwr Groegaidd Persews, a laddodd y gorgon Medwsa. Lluniau olew oedd chwech o’r deg golygfa, a phaneli cerfwedd isleoedd y gweddill.

Roedd ar Persews angen cymorth y Graiae, tair chwaer â dim ond un llygad ac un dant rhyngddynt, i ddod o hyd i Medwsa. Cymrodd Persews y llygad wrth i'r tair chwaer ei basio o un i’r llall, a’u gorfodi i ddangos y ffordd iddo. Mae’n sefyll yn y canol â’r tair chwaer yn eu cwrcwd wrth ei draed. Uwch ei ben, mae’r arysgrif Lladin sy’n adrodd yr hanes.

Bu Burne-Jones yn cydweithio â’I gynorthwywyr stiwdio a’r arbenigwr plaster Paris, Osmund Weeks, I greu’r panel hwn. Ond ni chafodd y panel fawr o groeso wrth ei arddangos yn Oriel Grosvenor ym 1878. Rhoddodd Burne-jones y gorau i weithio ar y paneli cerfwedd isleeraill.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Christopher Stray
18 Mai 2015, 15:16
The text of the Latin inscription is by Sir Richard Jebb (1841-1905). Contact me if you want any more information.... best wishes, Chris Stray
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd