Casgliadau Celf Arlein
Morwyn Fair y Creigiau
ARCHIPENKO, Alexander (1887 - 1964)

© ARS, Efrog Newydd a DACS, Llundain 2002
Dyddiad: 1912
Cyfrwng: efydd
Maint: 52.1 cm
Derbyniwyd: 1967; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2513
Bu Archipenko yn astudio yn ei ddinas enedigol, Kiev ac yn Mosgo cyn symud i Baris ym 1908. Yno rhannai stiwdio gyda Modigliani a Gaudier - Brzeska. Bu'n byw yn Berlin ym 1921-23 cyn ymfudo i'r Unol Daleithiau. Mae'r cast hwn yn un o chwe darn efydd o blastr gwreiddiol (Amgueddfa Celfyddyd Fodern Efrog Newydd) a arferai berthyn i Fernand Leger. Hwn yw un o weithiau cynnar mwyaf grymus Archipenko, ac y mae'n cyfuno'r ffigyrau a'r sail yn greadigaeth debyg i beiriant yn llawn ffurfiau geometrig sy'n gwau drwy ei gilydd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.