Casgliadau Celf Arlein
Venus Discordia
BURNE-JONES, Sir Edward (1833 - 1898)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 128.2 x 209.8 cm
Derbyniwyd: 1926; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 181
Roedd Burne-Jones yn gyfaill i William Morris ac yn gydymaith i Rossetti a Ruskin a daeth yn arweinydd ail gyfnod y mudiad Cyn-Raffalaidd. Bwriadwyd y llun olew anorffenedig hwn fel cymar i gyfansoddiad o'r enw Venus Concordia , ac yn mae Venus yn llywyddu dros olygfa o wrthdaro wedi ei ysgogi gan Ddicter. Eiddigedd, Amheuaeth a Chynnen. Mae'r ffigyrau'n dangos bod Burne-Jones wedi astudio celfyddyd y Dadeni yn ystod ei drydedd ymweliad a'r olaf ô'r Eidal ym 1871 a 1873.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.