Casgliadau Celf Arlein
Bywyd Llonydd â Thebot
CÉZANNE, Paul (1839 - 1906)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 61.4 x 74.3 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2440
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Byddai Cézanne yn peintio darluniau bywyd llonydd gydol ei yrfa, ond daw'r goreuon o'i flynyddoedd olaf. Mae'r cyfansoddiad hwn o 1902-06 yn un o nifer gyda ffrwythau, llysiau, llestri a darnau o ddefnydd wedi eu trefnu ar fwrdd sydd i'w weld o hyd yn ei stiwdio yn Aix. Mae'r gwrthrychau'n berthnasol i blygiadau carped y bwrdd fel patrymau yn y dirwedd. Mae persbectif wedi ei ail-lunio a manylion, megis bwlyn caead y tebot, wedi eu gwthio'n ôl i bwysleisio undod ffurf dros y pwnc. Fel y dywedodd David Sylvester ym 1962: 'Wrth i ni edrych ar y pedair ffurf gron yn cael eu cwmpasu gan blât yn Bywyd llonydd gyda Thebot, wyddwn ni ddim mewn gwirionedd ai afalau, orenau neu fricyll ydyn nhw na pha rai ydyn nhw, a dydyn ni ddim yn malio. Yr hyn wyddom ni wrth edrych arnyn nhw ac y gwyddom yn gorfforol yn ein cyrff yw'r teimlad o weld ffurf gron, ffurf sy'n hollol gryno, ffurf a all gyffwrdd â ffurfiau tebyg mewn un man yn unig, ffurf sydd â man canol penodol iawn.' Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym Mharis ym 1920.
sylw - (5)
Thank you for your comment. Still Life with Teapot by Paul Cezanne is on public display on Level 4 in the National Museum Cardiff (Impressionist and Modern Art Galleries).
Many thanks for your interest in Amgueddfa Cymru
Graham Davies, Online Curator.
Could you kindly let me know whether Still Life with Teapot (1902 - 1906) is still housed at the National Museum of Wales?
I am looking to view this work in May and just want to make sure that it is still accessible before I travel to Cardiff.
Many thanks!
If you would like to order an image of The Diver please contact our picture library
Thank you for your interest in Amgueddfa Cymru.
Thank you .