Casgliadau Celf Arlein
Gorffwys wrth Ffoi i'r Aifft
BACICCIO, Il (Giovanni Battista Gaulli) (1639 - 1709)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: fr. 82.6 x 67.5 cm
Derbyniwyd: 1978; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 105
Wedi gorchymyn y Brenin Herod i ladd pob bachgen bach llai na dwyflwydd, ffodd y Teulu Sanctaidd o Fethlehem i’r Aifft. Yma, mae Mair yn gorffwys mewn adfail gyda Christ yn ei breichiau. Mae’r ddelw ddrylliedig yn symbol o gwymp y duwiau paganaidd ar ddyfodiad Crist. Roedd Gaulli, neu il Baciccio, yn gweithio yn Rhufain, lle y daeth yn ddigon enwog i ennill saith comisiwn i beintio portreadau o babau.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.