Casgliadau Celf Arlein
Castell Caernarfon [Caernarvon Castle]
FIELDING, Anthony Vandyke Copley (1787 - 1855)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 137.1 x 195.6 cm
Derbyniwyd: 1948; Rhodd; F.J. Nettlefold
Rhif Derbynoli: NMW A 488
Arlunydd dyfrlliw yn bennaf oedd Fielding a Llywydd y Gymdeithas Peintwyr Dyfrlliw o 1831 tan ei farw. Rhwng 1812 a 1820 gwnaeth nifer o dirluniau olew mawr, gan gynnwys y gwaith hwn. Mae'n debyg iddo gael ei seilio ar frasluniau a wnaed yn ystod ymweliad â Gogledd Cymru ym 1815, a chafodd ei arddangos yn y Sefydliad Prydeinig ym 1819. Mae Fielding wedi gosod y castell yn y pellter fel canolbwynt cyfansoddiad clasurol sy'n ddyledus iawn i arddull Claude Lorrain.
sylw - (1)