Casgliadau Celf Arlein
Bae Ceredigion [Cardigan Bay]
COX, David (1783 - 1859)
Dyddiad: 1846
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 35.7 x 45.6 cm
Derbyniwyd: 1912; Trosglwyddwyd; Amgueddfa Dinas Caerdydd
Rhif Derbynoli: NMW A 413
Mae’r olygfa dawel hon siŵr o fod tua’r de o bentref Aber-arth, ger Aberaeron, tua Phenrhyn Cei Newydd. Mae Cox yn fwy adnabyddus am ei olygfeydd garw o Eryri a golygfeydd gwyntog yn y Rhyl, ond arddangosodd nifer o olygfeydd dyfrlliw o Fae Ceredigion yn y 1820au a’r 1830au hefyd. Ym 1840 dangosodd Cambrian Traveller's Guide gan Nicholson fod y ffordd o Aberaeron i Aberystwyth 'Yn dilyn yr arfordir ac yn gyffredinol yn rhoi amlinell gadarn gydag ambell benrhyn a bae. Mae ffigyrau darluniaidd yn cerdded i ffwrdd oddi wrth yr artist, fel y dynion hyn sy’n cario rhwydi berydsa, yn gyffredin yn ei luniau olew diweddarach.