Casgliadau Celf Arlein

gobled

Dyddiad: 1870-1871

Cyfrwng: arian, golch arian,

Maint: h(cm) : 11.8 x h(in) : 4 5/8 x diam(cm) : 10.8

Derbyniwyd: 1984; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 50497

Gwnaed y gobled hwn ar gyfer Burges ei hun ac mae'n un o dri esiampl tebyg y gwyddir amdanynt. Dan y rhimyn mae'r engrafiad ‘NOSTRUM STATUM PINGIT ROSA: NOSTRI STATUS DECENS GLOSA: NOSTRAE VITAE LECTIO’. Mae'n debyg taw dyfyniad ydyw o waith y bardd a'r diwinydd o'r 12fed ganrif, Alanus ab Insulis. Yma mae Alanus yn disgrifio sut y ceir ystyron cymhleth, emblematig yng ngwrthrychau'r cread. Mae cameos lliwgar a cherrig lled-werthfawr yn addurno'r gobled a ddaeth, mwy na thebyg, o gasgliad Burges ei hun.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd