Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1867
Cyfrwng: aur
Maint: h(cm) : 39.8 x diam(cm) : 14.7 x h(in) : 15 11/16
Derbyniwyd: 1997
Rhif Derbynoli: NMW A 51216
Y cwpan hwn yw'r gwrthrych mwyaf erioed y gwyddir iddo gael ei greu o aur Cymru. Fe'i comisiynwyd gan Syr Watkin Williams-Wynn (1820-85), 6ed Barwn Wynnstay, Sir Ddinbych gan ddefnyddio aur o fwynglawdd Castell Carn Dochan a ganfuwyd ar dir y teulu ym 1863. Daw'r dyluniad o ddarlun gan Hans Holbein yr Ieuengaf (1497/8-1543), ar gyfer cwpan a roddwyd i'r Frenhines Jane Seymour gan y Brenin Harri VIII ym 1536.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.