Casgliadau Celf Arlein
Cinio yn y Wlad
DAUMIER, Honore (1808 - 1879)
Dyddiad: 1868
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 26.0 x 34.0 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2449
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Roedd pobl Paris yn ciniawa yn yr awyr agored yn thema boblogaidd ymhlith artistiaid a beintiai olygfeydd o’r bywyd modern. Yma, mae’r dyn barfog yn enghraifft nodweddiadol o’r dosbarth canol. Mae tri yn eistedd yn hapus braf, ac mae un ohonynt yn bwydo sbarion i gi bach digon gwantan yr olwg. Mae dyn arall mewn cap fflat yn llowcio’i goffi’n frysiog, ac yn llygadu’r tamaid blasus.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.