Casgliadau Celf Arlein
Y Dyfrfan
DAUMIER, Honore (1808 - 1879)
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 44.7 x 55.7 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2451
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae’r tyndra rhwng y dyn sy’n ceisio ffrwyno’i geffyl a’r ci sy’n cyfarth yn y cysgodion, yn dangos dawn Daumier wrth gyfleu symudiadau. Mae effeithiau cyferbyniol y golau a’r tywyllwch hefyd yn ychwanegu at y ddrama. Tra bod hwn yn ddigwyddiad cyffredin bob dydd – dynion yn mynd â’u ceffylau i dorri syched yn afon Seine – mae’r artist wedi ychwanegu rhyw egni a dirgelwch i’r darn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.