Casgliadau Celf Arlein
Gweithwyr ar y Stryd
DAUMIER, Honore (1808 - 1879)

Dyddiad: 1838-40
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 12.4 x 17.0 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2450
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Gweithiwr yn ysmygu cetyn, â chaib dros ei ysgwydd sy’n hoelio’r sylw ym mhaentiad Daumier. Mae’n syllu braidd yn drwynsur ar wˆr cefnog yr olwg mewn het silc. Roedd Daumier yn Realydd a sylwebydd cymdeithasol didostur. Mae’r paentiad hwn yn adlewyrchu’r ymdeimlad o anniddigrwydd a fodolai rhwng y bourgeoisie cyfoethog a’r dosbarth gweithiol.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.