Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pot, coffee
Cynhyrchwyd y potyn coffi hwn ym 1771 yn Oude Loosdrecht yn yr Iseldiroedd yn y ffatri a sefydlwyd gan Pastor Joannes de Mol i greu gwaith i’r boblogaeth leol. Yn anffodus mae’r artist a baentiodd y darlun bywiog o fwltur ac adar eraill yn anhysbys. Mae’n bosibl taw’r Ffrancwr Louis-Victor Gerverot (1747-1829) ydoedd, paentiwr porslen a deithiodd yn helaeth yn Ffrainc a’r Almaen yn ystod ei yrfa, a fu’n gweithio yn ffatri Weesp yn yr Iseldiroedd ym 1768-1769 ac yn Loosdrecht o 1775 i 1779.