Casgliadau Celf Arlein

jwg

Workshop: Germany

Dyddiad: early 17th century

Cyfrwng: ,

Maint: h(cm) overall : 30 x h(cm) : 27.3 (to lip) x diam(

Derbyniwyd: 1996; Dyrannwyd yn lle treth

Rhif Derbynoli: NMW A 32747

Gwnaed y jwg yn y canol yma yn Raeren, ger Aachen. Mae gwydriad halen brown cyfoethog yn gorchuddio corff llwyd a bwâu wedi mowldio ar yr ochr yn amgylchynu ffigyrau tri-chwarter o’r Saith Etholydd – y tywysogion Almaenig fyddai’n dewis yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Enwir y saith, pob un yn dal ei arfbais, mewn Almaeneg fel a ganlyn: 1. Archesgob Trier, 2. Archesgob Köln, 3. Archesgob Mainz, 4. Yr Ymerawdwr Glân Rufeinig fel Brenin Bohemia, 5. Cownt Palatine, 6. Dug Sacsoni, 7. Ardalydd Brandenburg. Mowldiwyd y dyddiad 1602 i’r jwg, ond gallai fod wedi’i gynhyrchu ychydig yn ddiweddarach. Arferai fod yn rhan o’r casgliad o weithiau celf y dadeni a adeiladwyd ym Mhrâg gan Adalbert von Lanna (1836-1909) cyn cael ei gaffael yn ddiweddarach gan y penadur diemwntau Syr Julius Wernher (1850-1912).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd