Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1639
Cyfrwng: ,
Maint: h(cm) overall : 15.9 x h(cm) : 11.2 (to lip) x dia
Derbyniwyd: 1996; Dyrannwyd yn lle treth
Rhif Derbynoli: NMW A 32750
Mae’r tancard ar y dde yma yn esiampl dda o’r crochenwaith caled wedi mowldio a’i enamlo a’i orchuddio â gwydriad halen brown a gynhyrchwyd yn Creussen, Bavaria. Mae’r addurn yn arwydd o wreiddiau’r tancard yn rhanbarth Gatholig de’r Almaen. Naill ochr i olygfa o’r Croeshoeliad gwelwn y Pab ar ei orsedd a’r Forwyn Fair a’i Phlentyn – tri thestun oedd yn boblogaidd ymhlith y Gwrthddiwygwyr. Ymddengys y dyddiad 1639 o dan y ddolen. Arferai fod yn rhan o’r casgliad o weithiau celf y dadeni a adeiladwyd ym Mhrâg gan Adalbert von Lanna (1836-1909) cyn cael ei gaffael yn ddiweddarach gan y penadur diemwntau Syr Julius Wernher (1850-1912).