Casgliadau Celf Arlein

Rhyddid y Moroedd

BRANGWYN, Sir Frank William (1867 - 1956)

Rhyddid y Moroedd - Frank Brangwyn

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 13153

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Gwelwn griw o forwyr ar drugaredd y tonnau yn brwydro’n arwrol yn erbyn y môr-anghenfil, symbol o’r frwydr fawr yn erbyn y gelyn.

Ganwyd Brangwyn yn Brugge, Fflandrys, cyn dychwelyd i Brydain gyda’i deulu pan yn ifanc iawn. Er taw prin oedd ei addysg gelf, cafodd yrfa lwyddiannus fel paentiwr darluniau olew a dyfrlliw gan droi ei law hefyd at brintio, pensaernïaeth a dylunio.

Er nad oedd yn artist rhyfel swyddogol, cynhyrchodd dros 80 o bosteri a chynlluniau ar gyfer Stampiau Bond Rhyfel. Roedd yn aelod o Glwb Senefelder, oedd yn hyrwyddo lithograffi. Byddai’n printio ei luniau ei hun, ac yn gweithio’n uniongyrchol ar y garreg lithograffi yn hytrach na defnyddio papur trosglwyddo.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd