Casgliadau Celf Arlein
Adfer Serbia
MOIRA, Gerald (1867 - 1959)
Dyddiad: 1917
Cyfrwng: lithograff ar bapur
Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth
Rhif Derbynoli: NMW A 13159
Cafodd Serbia ei goresgyn gan Awstria-Hwngari ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu brwydro ffyrnig gydol yr ymgyrch, a mawr fu colledion Serbia. Mae’r llun hwn yn dangos y broses o ailadeiladu’r wlad. Dangosir pen cerflun enfawr yn cael ei godi, ac mae’r trawstiau metel yn creu llinellau lletraws cadarn ar draws y darlun. Cyflwynir y dorf mewn gwisgoedd traddodiadol lliwgar.
Ganed Moira yn Llundain i rieni o Bortiwgal. Mae’n fwyaf adnabyddus am baentio murluniau, bu’n paentio tirluniau a ffigyrau ac roedd hefyd yn lithograffydd. Astudiodd yn Ysgolion yr Academi Frenhinol ac yna ym Mharis, gan arddangos ei waith o 1891 ymlaen. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y Gymdeithas Bortreadau Genedlaethol ym 1911, ac yn bennaeth Coleg Celf Caeredin rhwng 1924 a 1932.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.