Casgliadau Celf Arlein

Diwedd Rhyfel

NICHOLSON, Sir William (1872 - 1949)

Diwedd Rhyfel - Sir William Nicholson

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 13160

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Mae milwr o Brydain yn taro’r hoelen olaf gan gau’r drws yn glep ar y rhyfel. Gwelir yn yr adfeilion a’r olion gwaed bod y dinistr yn dal yn fyw yn y cof. Meddai un o feirniaid y cyfnod, 'I fell to completest content in front of William Nicholson's 'End of War'. Nothing could be better than the sentiment and its expression.’

Ganwyd Nicholson yn Newark-on-Trent. Astudiodd yn Ysgol Herkomer, Bushey, ac yna yn Académie Julian, Paris. Cafodd flas ar sawl cyfrwng gwahanol, gan gynnwys paentio ac engrafu. Mae’n bennaf enwog am ei waith arloesol yn dylunio posteri ar y cyd â’i frawd-yng-nghyfraith James Pryde dan yr enw “J. and W. Beggerstaff”. Datblygodd yn y pen draw yn baentiwr portreadau a bywluniau llwyddiannus.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd