Casgliadau Celf Arlein

Blaen-orsaf Trin Clwyfau yn Ffrainc

SHEPPERSON, Claude Allin (1867 - 1921)

Blaen-orsaf Trin Clwyfau yn Ffrainc - Claude Shepperson

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NWM A 13200

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Mae meddyg yn plygu dros ei glaf ar wely gwellt mewn pabell dywyll, a nyrs yn ei gynorthwyo. Byddai cludwyr wedi’i gario yno o’r ffosydd ar stretsier er mwyn cael triniaeth a’i baratoi i’w gludo i Ysbyty Glirio. Mae rhaffau’r babell, sy’n creu llinellau lletraws yn dangos manwl gywirdeb Shepperson fel artist graffeg.

Mae’r printiau hyn yn dilyn taith milwr clwyfedig o’r Ffrynt, trwy’i driniaeth a’i adferiad nôl adref. Yn wreiddiol, roedd y trefnwyr wedi gofyn i’r artist a’r cyn-lawfeddyg Henry Tonks (1867-1937), ymateb i waith y gwasanaethau meddygol. Fodd bynnag, teimlai Tonks nad oedd y papur a ddarparwyd yn addas ar gyfer darlunio, a gwrthododd y cynnig. Comisiynwyd Shepperson i fynd i’r afael â’r pwnc wedyn, ac aeth ati i gynhyrchu cyfres a gafodd dderbyniad gwresog iawn.

Ganwyd Shepperson yn Beckenham, Caint, ac roedd yn artist amlgyfrwng llwyddiannus yn gweithio mewn dyfrlliw a phen ac inc, darluniau a lithograffau. Wedi rhoi’r gorau i astudio’r gyfraith, dilynodd gyrsiau celf yn Llundain a Pharis. Mae’n enwog am y darluniau doniol a gyfrannodd i gylchgrawn Punch rhwng 1905 a 1920.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd