Casgliadau Celf Arlein
Uchelgais yr Ifanc
BRANGWYN, Sir Frank William (1867 - 1956)
Dyddiad: 1917
Cyfrwng: lithograff ar bapur
Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth
Rhif Derbynoli: NMW A 5638
Saif llanc ifanc ar ymyl y doc, yn syllu’n hiraethus ar long ryfel ar y gorwel niwlog. Efallai ei fod yn ystyried ei ddyfodol ei hun, ac yn teimlo’r môr yn galw.
Mae lluniau Brangwyn yn adlewyrchu ei ddiddordeb yn y môr. Yn llawer o’i brintiau, mae wedi manteisio ar nodweddon lithograffi er mwyn creu printiau tebyg i frasluniau a darluniau. Cafodd Brangwyn ei ysgwyd i’r byw gan ddifodiant a dinistr rhyfel, yn enwedig yn Fflandrys, lle cafodd ei eni. Er na chafodd erioed ei benodi’n artist rhyfel swyddogol, cynhyrchodd lu o lithograffau ar gyfer achosion da.
Ganwyd Brangwyn yn Brugge, Fflandrys. Roedd ei dad o dras Eingl-Gymreig a’i fam yn hanu o Aberhonddu. Dychwelodd y teulu i fyw ym Mhrydain, ac erbyn iddo droi’n bymtheg, roedd Brangwyn yn astudio dan adain William Morris, y cynllunydd a’r sosialydd. Wrth iddo ennill ei blwyf fel paentiwr, ysgythrwr a lithograffydd, dechreuodd Brangwyn grwydro’r byd. Roedd eisoes yn adnabyddus dramor pan dderbyniodd y comisiwn hwn, ac yn aelod o Glwb Senefelder a hyrwyddai lithograffi fel cyfrwng.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.